Ymchwiliad Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Presenoldeb ac ymddygiad

 

Ionawr 2013

 

 

 

 

 

 

 

 


Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ymchwil i Bresenoldeb ac Ymddygiad

 

1.0   Cyflwyniad

 

1.1     Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn croesawu’r cyfle hwn i gael cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor uchod ar ddau faes sy’n effeithio’n sylweddol ar ein haelodau.

 

1.2     Mae UCAC yn cynrychioli 5,000 o athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru. Mae’r sylwadau a ganlyn, felly, yn dystiolaeth gan athrawon llawr dosbarth a phenaethiaid ar faterion presenoldeb ac ymddygiad. Yn aml mae aelodau yn cysylltu â’r Undeb ynghylch y materion hyn pan fyddant dan bwysau aruthrol ac yn profi rhwystredigaeth wrth geisio ymdopi â sefyllfaoedd anodd neu ddisgwyliadau afresymol.

 

1.3     Croesawodd yr Undeb ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn ôl yn 2006 i gynnal Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad  a Phresenoldeb gyda’r nod o lywio’r modd y dylid ymdrin â’r materion heriol hyn yn y dyfodol. Tra bo rhai datblygiadau o ran hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a gwella presenoldeb wedi digwydd, mae’r ffaith bod yr ymchwil pellach hwn yn cael ei gynnal, ynddo’i hun, yn amlygu mai annigonol a bylchog fu’r gwelliannau.

 

1.4     Byrdwn y ddogfen Ymddygiad a Phresenoldeb: Cynllun Gweithredu yn Ymateb i’r Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb (Dogfen 076/2009) yw’r cyswllt digamsyniol rhwng  cyflawniad addysgol ac ymddygiad a phresenoldeb. Er bod synnwyr cyffredin yn dweud mai po uchaf yw’r gyfradd bresenoldeb, uchaf yw lefel y cyrhaeddiad yn debygol o fod, mae’r ystadegau yn cadarnhau bod y gyfatebiaeth yn drawiadol. Yn yr un modd mae cael disgybl anystywallt yn y dosbarth yn mynd i amharu o reidrwydd ar addysg yr unigolyn a gweddill y dosbarth, yn ogystal ag effeithio ar fywyd a gwaith yr athro/athrawon dan sylw.

 

1.5     Cydnabyddir bod cyswllt amlwg rhwng rhai achosion o ymddygiad heriol ac oblygiadau hynny i  bresenoldeb, ee mewn achos o eithrio neu ddiarddel. Fodd bynnag, mae cyplysu’r ddau wedi arwain at ganolbwyntio ar y garfan fechan hon o ddisgyblion yn unig gan anwybyddu’r ffactorau pwysig hynny sy’n effeithio ar bresenoldeb ac ymddygiad  yn gwbl ar wahân i’w gilydd. Er mwyn eglurder, felly, rydym yn gwahanu’r ddau yma ar gyfer y cyflwyniad hwn.

 

2.0   Presenoldeb

 

2.1     Dros y blynyddoedd diwethaf mae sawl dogfen wedi ei chyhoeddi, sawl grŵp llywio wedi ei  benodi, sawl peilot wedi ei sefydlu a’i weithredu yn sirol a chenedlaethol ar bresenoldeb.   Mae llawer o’r dogfennau yn ailadroddus, yn llawn rhethreg ac heb lwyddo i adnabod nac i fynd i’r afael â sefyllfaoedd dydd i ddydd -  a hynny mewn iaith bod dydd.

 

2.2     Bu sefydlu codau cofnodi absenoldeb cenedlaethol a chytunedig  yn gam  gwerthfawr o ran eglurder a chysondeb. Mae’r codau hyn wedi hwyluso casglu data ar bob lefel ac wedi arwain at well cysondeb ledled Cymru yn unol â’r bwriad. Ers  mabwysiadau’r canllawiau newydd, fodd bynnag, mae yna ormod a amser ac egni swyddogion ar bob lefel wedi mynd ar adolygu ac addasu y codau hyn  a hynny ar draul rhoddi sylw i’r rhesymau dros yr absenoldebau hynny.

 

2.3     ran cywain ystadegau, mae ‘sefydlu dulliau a phrosesu newydd’ wedi mynd yn endid ynddo’i hun yn hytrach nag yn offeryn i wella presenoldeb.  Bellach mae dadansoddi’r ystadegau wedi mynd yn eithafol ac afresymol.  Mae cynnwys graddau presenoldeb fel rhan o’r cyfrifiad wrth fandio ysgolion  yn rhagdybio bod gan yr ysgol reolaeth lwyr dros lefel presenoldeb y disgyblion.

 

2.4     Dengys y dystiolaeth nad oes unrhyw welliant arwyddocaol wedi bod  ar lefel cenedlaethol yn lefel yr absenoldebau anawdurdodedig ers cyflwyno’r codau newydd. Mae hyn ar waethaf y ffaith bod ysgolion, dros yr un cyfnod, wedi buddsoddi amser ac egni sylweddol mewn sefydlu systemau monitro a chofnodi presenoldeb; mae’r gweithdrefnau hyn wedi golygu cryn gost o ran sefydlu systemau cyfrifiadurol, adnabod staff i wneud galwadau dyddiol i gartrefi disgyblion absennol ac amser staff i fentora disgyblion ac i gywain a dansoddi’r data ar gyfer trafodaethau mewnol a bwydo cronfa ddata sirol a chenedlaethol. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn yr ysgolion lleiaf wedi syrthio ar ysgwyddau’r Pennaeth ac wedi bwyta i mewn i’w amser addysgu a rheoli ac wedi trymhau’r llwyth gwaith.

 

2.1 Beth sydd angen ei wneud i leihau absenoldebau awdurdodedig ?

 

Awgrym 1

 

Gwella’r Gwasanaethau Cefnogi Meddygol a sicrhau eu bod ar gael ac yn gymharus ym mhob cwr o Gymru gan yn benodol:

 

    i.      Sicrhau bod gan ysgolion wasanaeth Nyrs Ysgol a Meddyg Ysgol. Mae’r gwasanaeth yma wedi ei leihau yn gyson yn y blynyddoedd diwethaf ac yn dal o dan fygythiad ond mae yn anhepgor i gynghori ysgol a’r cartref ar sut i ddelio â chyflyrau parhaol neu dymor hir, megis asthma, clefyd siwgr, anhwylder croen, epilepsi, sy’n gallu bod yn rhwystr i ddisgyblion fynychu’r ysgol.

 

   ii.      Darparu arweiniad clir a chenedlaethol ar salwch cyffredin plant sy’n effeithio ar eu gallu i fynychu ysgol. Ar hyn o bryd mae yna negeseuon cymysg iawn yn cael eu rhoi gan ysgolion a chan weithwyr yn y gwasanaeth iechyd ynghylch pryd y dylai plant fynychu a pheidio mynychu ysgol. Er enghraifft, dylid nodi’n glir pryd y dylai plant sydd wedi cael salwch penodol megis y frech goch, clwyf ieir, clwyf pennau ac ati ddychwelyd i’r ysgol. Ceir negeseuon cymysg hefyd o ran anhwylderau croen megis ‘impetigo’ sy’n chwalu’n sydyn drwy ddosbarth o fabanod. Byddai cyhoeddi llyfryn a’i anfon i bob cartref, ysgol, meddygfa Awdurdod Lleol a llyfrgell yn fanteisiol i bawb ac yn sicrhau cysondeb yn y negeseuon a roddir i rieni a gofalwyr.

 

 iii.      Darparu, yn ychwanegol at hyn, gyngor a chyfarwyddyd clir a chyson i rieni ar pryd mae’n briodol i anfon eu plentyn i’r ysgol a phryd yn fwy priodol i’w gadw adref. Mae sefydlu ymateb cytbwys a phriodol i fân anhwylderau yn y blynyddoedd cynradd yn debygol o sicrhau ymddygiad priodol yn yr uwchradd ac ym myd gwaith. Ar un pegwn eithaf y mae yna blant sy’n cael eu cadw gartref  ar y pesychiad cyntaf. Ar y pegwn arall ceir plant sydd wedi bod yn cyfogi neu efo dolur rhydd drwy’r nos yn cyrraedd yr ysgol yn llipa ben bore am nad oes neb i ofalu amdanynt; erbyn amser chwarae maent wedi bod yn sâl ac wedi heintio gweddill disgyblion a staff y dosbarth. Rhaid i rieni sylweddoli nad gwasanaeth gwarchod plant mo ysgolion.

Awgrym 2

 

Sicrhau bod cronfa ddigonol ar gael i dalu am gymorth i ddisgybl sydd angen cymorth ymarferol dros dro yn dilyn damwain ee torri coes neu fraich neu lawdriniaeth. Mae prosesau ceisio am gymorth o’r fath yn gysylltiedig â phrosesau Anghenion Addysgol  Ychwanegol ac yn fiwrocrataidd a hirwyntog. Profiad aelodau yw fod disgyblion o’r fath wedi gwella, ond wedi colli wythnosau o ysgol, ymhell cyn i’r cais am gymorth fynd gerbron y panel perthnasol.

 

Awgrym 3

 

Gwneud safiad pendant ynghylch tynnu disgyblion i fynd ar wyliau/teithiau yn ystod tymor ysgol. Mae dau reswm economaidd pam bod cynifer o rieni yn tynnu eu plant allan o’r ysgol i fynd ar wyliau teuluol yn ystod tymor. Y naill yw cost y gwyliau - a does ond eisiau edrych ar unrhyw gylchgrawn gwyliau i ganfod bod y gost yn dyblu a mwy yn ystod gwyliau arferol ysgol - a’r llall yw’r ffaith bod twristiaeth yn ddiwydiant pwysig yng Nghymru ac ni all y rhai sy’n ennill eu bywoliaeth yn y diwydiant hwn fforddio colli enillion drwy fynd ar wyliau ar adegau prysur.

Deil rhai rhieni dan yr argraff bod absenoldeb o’r fath yn ‘hawl’ ac nad oes angen gofyn am ganiatâd.

 

2.2  Beth sydd angen ei wneud i leihau absenoldebau anawdurdodedig ?

 

Awgrym 4

 

Gwella’r Gwasanaethau Cefnogi a sicrhau eu bod ar gael ac yn gymharus ym mhob cwr o Gymru a hynny drwy:

 

    i.      Sicrhau bod gan bob ysgol gefnogaeth Swyddog Lles Addysg cyson a digonol. Dros y blynyddoedd diwethaf mae toriadau wedi bod yn y gwasanaeth hwn ac yn aml nid oes bellach fawr ddim cefnogaeth i ysgolion ac i ysgolion cynradd yn benodol. Mae ymchwil yn dangos bod ymyrraeth gynnar yn dwyn ffrwyth ar ei ganfed. Mae torri ar batrwm o absenoldebau rheolaidd yn gynnar yn addysg disgybl yn debygol o leihau sefydlu’r fath batrwm sy’n aml yn dwysau fel yr â’r disgybl yn hŷn. Tystia ein haelodau bod budd mawr yn y gwasanaeth hwn pan yw ar gael, ond mae mwy a mwy o sefyllfaoedd yn codi ble mae staff ysgol yn gorfod ysgwyddo’r fath gyfrifoldebau  a hynny ar draul eu hamser addysgu a rheoli. Mae’r cyswllt mae Swyddogion Lles Addysg yn wneud efo’r rhieni yn aml yn allweddol at wireddu gwelliant yn y presenoldeb.

 

   ii.      Rhannu unrhyw arfer dda sydd wedi profi’n llwyddiant mewn rhai ysgolion efo ysgolion eraill. Yn anffodus mae gwaith prosiect sydd wedi dwyn ffrwyth mewn un lleoliad yn methu oherwydd nad yw’r un mewnbwn, o ran arian ac arweiniad, yn cael ei gynnig mewn lleoliadau eraill. Rhaid i unrhyw ddatblygiad newydd fod yn gynaliadwy yn y tymor hir i fod o unrhyw werth gwirioneddol.

 

 iii.      Meithrin y berthynas rhwng yr ysgol a rhieni sydd yn llai tebygol o deimlo’n rhan o gymuned yr ysgol. Mae rhaglen addysg y teulu (Family Learning Programme, sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru) yn bwysig iawn yn hyn o beth ac mae’r dystiolaeth anecdotaidd yn dangos yn glir, lle mae rhieni wedi derbyn cefnogaeth i fynd i’r afael â phroblemau rhifedd a llythrennedd eu hunain ac wedi cael y cyfle i weithio gyda’u plant o dan gyfarwyddyd, maent yn llawer fwy tebygol o ymwneud â’r ysgol (e.e. ddod i gyfarfodydd Cymdeithas Rhieni Athrawon neu nosweithiau rhieni) ac mae lefelau presenoldeb a chyrhaeddiad plant yn codi. Mae cydnabyddiaeth cyffredinol bod y Rhaglen yn gweithio. Nid oes digon o dracio wedi bod yn y gorffennol o ran yr effaith ar rieni a phlant er mwyn cael tystiolaeth gadarn ond mae adroddiadau ee gan NIACE yn dangos pwysigrwydd gweithio gyda rhieni. Wrth ddatrys rhai o broblemau’r rhieni mae’n gallu cael effaith positif dros ben ar y plant a’u hagwedd tuag at yr ysgol ac addysg.

3.0  Ymddygiad

 

Yn anffodus, mae nifer yr achosion o aelodau yn wynebu sefyllfaoedd o ymddygiad heriol gan ddisgyblion ar gynnydd.  ]Ffactor pellach sy’n dwysau’r argyfwng yw’r ffaith bod nifer cynyddol o’r achosion sy’n dod i’n sylw yn ymwneud â’r sector cynradd ac â’r Blynyddoedd Cynnar yn benodol. Gellir categoreiddio’r achosion hyn i:

 

  1. Iaith Amhriodol a Bygythiadau Geiriol

Mae achosion o iaith anweddus yn gyffredin iawn ond mae hyn yn gallu troi’n fygythiol efo disgyblion yn bygwth yn eiriol aelod o staff... Dwi’n mynd i .....chdi . Yn aml daw’r bygythiad yn sgil derbyn cerydd llafar neu pan nad yw’r disgybl yn cael ei ffordd ei hun.

 

  1. Bygythiadau Corfforol

Mae’n mynd yn fwyfwy cyffredin i ddisgyblion daro allan pan fydd aelod o staff yn gofyn neu eu  cymell i wneud rhywbeth. Mewn rhai achosion mae disgyblion yn colli eu tymer i’r fath raddau  fel eu bod yn troi byrddau a chadeiriau drosodd, taflu pethau neu malu offer, arddangosfeydd neu waith ysgol – yn waith eu hunain a gwaith disgyblion eraill. Weithiau mae hyn yn fympwyol ac adweithiol a  thro arall yn weithred wedi ei dargedu.

 

Er mai eithriadau yw ymddygiad eithafol o’r fath, pan yw’n digwydd mae’n amharu’n fawr ar forâl staff yn ogystal â’u diogelwch. Mae hefyd yn effeithio’n andwyol ar ddiogelwch ac addysg gweddill y dosbarth ac yn gallu arwain at gynnydd mewn absenoldebau. Mae hefyd yn gallu tanseilio athro yng ngolwg disgyblion eraill.

 

  1. Herio Emosiynol (Herio awdurdod / Gwrthod cydymffurfio)

Mewn rhai achosion bydd disgyblion yn gwrthod dilyn cyfarwyddyd yn agored neu yn gwneud yn groes i’r hyn a ddeisyfir yn fwriadol i gythruddo staff a chael sylw. Weithiau bydd disgybl yn herio aelod o staff efo sylwadau o’r math ‘ fedrwch chi mo fy ngorfodi fi i..../ does gennych chi ddim hawl i .....   ac ati.

 

  1. Defnydd o dechnoleg newydd

Mae rhai disgyblion yn defnyddio technoleg newydd, e.e. ffonau symudol yn fwriadol i danseilio awdurdod athro, e.e. ysgrifennu barn am athro / cyhuddo athro mewn fforwm cyhoeddus megis gwefannau fel ratemyteacher; mae eraill yn defnyddio ffonau symudol i ffilmio digwyddiad (e.e. herio athro) a llwytho’r ffilm i’r we. Mae’r ffilmio dirgel hwn, sy’n arwain at gyhoeddusrwydd anffafriol i’r athro, hefyd yn effeithio ar forâl, a statws yr athro a’i berthynas gyda’r disgybl / dosbarth.

Rydym wedi dod ar draws enghreifftiau o ddisgyblion yn gwneud defnydd amhriodol o Facebook i danseilio neu greu embaras i athro, e.e. creu cyfrif yn enw’r athro a llwytho pethau hollol amhriodol.

Mae’r defnydd o e-dechnoleg yn y modd yma wedi arwain at ymchwiliadau i ymddygiad, ac yn gallu peryglu nid yn unig statws yr athro yn y tymor byr ond hefyd ei yrfa yn y tymor hir. Mae’n ddull o seibr fwlio athrawon gan ddisgyblion ac yn hollol annerbyniol.

 

Mae athrawon yn gallu wynebu ymddygiad bygythiol o’r math yma gan rieni hefyd yn cynnwys defnydd o iaith anweddus neu fygythiol, bwlio, bygythiad corfforol a seibr fwlio.

 

3.1  Beth sydd angen ei wneud yn genedlaethol?

 

Awgrym 5

 

Mae angen cydnabod y broblem a’i maint. Ynghlwm wrth hynny mae angen polisïau clir ar lefel cenedlaethol – yn cynnwys datganiad clir nad yw ymddygiad heriol yn mynd i gael ei oddef mewn ysgolion gan ddisgyblion na’u rhieni.

 

Mae angen cyfleu’n glir a diamwys hefyd nad oes angen i staff ysgol ddioddef ymosodiadau geiriol na chorfforol. Mae ysgolion wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth integreiddio disgyblion ag ystod eang o anghenion ac mae UCAC yn cefnogi bob ymgais i hyrwyddo a hybu cynhwysiad mewn addysgu a dysgu. Fodd bynnag, mae yna gamsyniad bod yn rhaid i athrawon ddygymod â phob sefyllfa oherwydd bod yn ‘rhaid integreiddio’ y disgybl. Mae’n rhaid derbyn bod pwynt yn dod weithiau ble mae’n ofynnol i staff wrthod addysgu disgybl oherwydd ei fod ef neu hi yn amharu’n ormodol ar ddiogelwch ei gyd-ddisgyblion a/neu staff neu ei fod yn amharu’n afresymol ar addysg plant eraill. Rhaid gwarchod hawl athrawon i weithredu mewn sefyllfa o’r fath er mor anfynych y defnyddir yr hawl hwn.

 

Awgrym 6

 

Mae angen sicrhau arweiniad a hyfforddiant o ansawdd i staff ysgol yn athrawon a staff ategol. Mae dosbarthu’r Llawlyfrau ar Reoli Ymddygiad i ddarpar athrawon yn y Cynradd ac Uwchradd yn cynnig adnodd buddiol i athrawon ar ddechrau eu gyrfa ond mae angen hyfforddant rhyngweithiol yn ogystal â chanllawiau printiedig.

 

Mae hi’n arwyddocaol bod ysgolion yn gorfod neilltuo cyfnodau sylweddol i gyflwyno sgiliau a hyfedredd cymdeithasol i blant ifanc a’u cynorthwyo i ymdopi â’u emosiynau. Mae’r rhaglenni megis Ysgol Dina, Rhaglen Blynyddoedd Rhyfeddol,  Cynlluniau PATHS (Promoting Alternative Thinking Strategies ) a SEAL  (Social and Emotional Aspects of Learning) i gyd wedi profi’n llwyddiannus yn ôl ein haelodau, yn arbennig pan fo’r rhaglenni hyn yn cael eu cyflwyno fel rhaglen ysgol gyfan ac yn cynnwys holl staff yr ysgol. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnig dull cyson a chydlynus o hyrwyddo ymddygiad da. Eto arian prosiect neu grantiau penodol sy’n eu cyllido yn aml ac efo toriadau mewn arian hyfforddiant, ee cyllid hyfforddiant drwy’r Cyngor Addysgu, nid oes adnoddau ar gael i eraill ddilyn yr un hyfforddiant, ee staff newydd.

 

Awgrym 7

 

Yn ogystal â’r hyfforddiant generic hwn sy’n galluogi athro i ddelio’n llwyddiannus â tharfu lefel isel dydd i ddydd, mae angen rhaglen o gynhaliaeth a hyfforddiant mwy dwys a phenodol i staff sy’n wynebu disgybl heriol. Yn aml, pan yw ysgol yn troi at asiantaethau allanol am gymorth, yn cynnwys troi am arweiniad gan eu hundeb, maent wedi ceisio rhoi llu o strategaethau ar waith i ddelio â’r achos yn barod. Y cam cyntaf sydd ei angen yw cynhaliaeth ddwys di-oed i ddadansoddi pam nad yw’r strategaethau a ddefnyddiwyd wedi gweithio a chydgynllunio rhaglen ddwys o ymyrraeth. Profiad aelodau yw nad yw’r math hwn o gefnogaeth ar gael yn ddigon buan oherwydd prinder staff efo’r arbenigeddau perthnasol o fewn Awdurdodau; lle mae staff cymwys ar gael mae eu llwyth gwaith yn afresymol fel nad ydynt yn gallu rhoi amser digonol i ysgolion.

 

Pan gynigir hyfforddiant, mae tuedd iddo fod i un person yn hytrach nag i bawb sy’n delio â’r unigolyn. Er sicrhau cysondeb ac ymyrraeth lwyddiannus mae’n rhaid i bawb sy’n delio â’r unigolyn dderbyn yr un arweiniad, gan gynnwys y rhieni os yn bosibl.

 

Mae staff ysgol angen arweiniad  cyffredinol a phenodol ar ymyrraeth gorfforol. Mae gwaith ymchwil pobl fel Heather Piper o Brifysgol Metropolitan Manceinion (The Case Against ‘No Touch’ Policies) yn amlygu bod Polisïau Dim Cyffwrdd ysgolion wedi mynd yn eithafol. Mae i hyn oblygiadau pellgyrhaeddol pan fo staff yn ceisio delio â disgybl sy’n bygwth nhw a’u cyd-ddisgyblion yn gorfforol ac angen ataliaeth gorfforol.  Er nad yw UCAC yn cymeradwyo gosod staff mewn sefyllfaoedd ble mae angen iddynt ddefnyddio grym rhesymol, pan fo ymddygiad disgybl yn gwneud y fath sefyllfa yn debygol ac yn angenrheidiol, y mae angen i’r staff hynny gael hyfforddiant llawn. Profiad ein haelodau yw fod swyddogion  ar lefel sirol ac ar lefel cenedlaethol yn amharod i gydnabod yr angen hwn a’i oblygiadau cyfreithiol. Tra bod y swyddogion hyn yn ‘ystyried’ beth i’w wneud mae yna staff a disgyblion yn wynebu ymosodiadau dyddiol a hyn yn effeithio ar ansawdd yr addysg a gynigir a lles a morâl staff a disgyblion.

 

Awgrym 8

 

Mae angen neilltuo adnoddau i hybu cefnogaeth a chydweithio efo’r rhieni.

 

Mae ymateb a chefnogaeth rhieni’n greiddiol wrth ddelio ag ymddygiad heriol. Profiad ein haelodau yw fod ymateb rhieni’n amrywio o wadu a herio unrhyw awgrym o broblem i gydweithredu’n llwyr ac yn llawn cydymdeimlad. Yn  fynych yn y categori olaf adroddir bod rhieni eu hunain yn ‘crefu’ am gymorth ac yn ei chael yn rhwystredig pan nad oes neb ar gael i’w helpu, maent yn aml yn troi at staff ysgol am yr arweiniad. Cawsom wybodaeth am sefyllfaoedd ble mae amharodrwydd i ddarparu cefnogaeth dros ffiniau sirol a byrddau iechyd, h.y. mae’r disgybl yn mynychu ysgol sydd y tu allan i’r sir ble mae’n byw neu o fewn tiriogaeth bwrdd iechyd gwahanol. Ni ellir cyfiawnhau biwrocratiaeth o’r fath.

 

Awgrym 9

 

Mae angen sicrhau bod adnoddau ar gael i hybu cydweithio ar draws yr asiantaethau . Profiad ein haelodau yw bod y rhan helaethaf o’r gwaith yn syrthio ar ysgolion a hynny yn bennaf oherwydd prinder adnoddau

Adweithio i sefyllfaoedd sydd wedi cyrraedd pwnt o argyfwng yw’r patrwm arferol yn hytrach na darparu cefnogaeth buan a chydlynus a thrwy hynny rhoi strategaethau ar waith i osgoi i’r sefyllfa fynd yn argyfyngus.

Mae sefyllfaoedd o ‘symudiadau wedi’u rheoli’ wedi profi’n llwyddiant mewn rhai achosion, yn arbennig pan y gwelir hyn fel cyfle newydd i ddisgybl. Rhaid derbyn na fydd symudiad o’r fath yn addas ym mhob sefyllfa a sicrhau nad yw rhai ysgolion yn cael mwy na’u siâr o ddisgyblion sy’n symud dan y fath amgylchiadau. Unwaith eto mae ein haelodau yn adrodd bod llawer yn dibynnu ar lefel y gynhaliaeth sydd ar gael gan staff pob asiantaeth i’r disgybl a’r ysgol i ymdopi â’r symud.

 

Sylwadau Cloi

 

Ar ddiwedd y dydd nid oes dim gwelliant arwyddocaol yn mynd i ddigwydd heb fod yr adnoddau digonol yn cael eu cyfeirio i ateb y sefyllfa a hynny drwy fynd i’r afael â’r Awgrymiadau uchod. Mae angen rhoi’r gorau i chwarae efo ffigyrau dim ond er mwyn i bethau ‘ymddangos’ yn well ond yn hytrach mae angen dadansoddi’r data o ran adnabod y rhesymau wrth wraidd yr absenoldebau ac ymateb i hynny.

 

Fel â nodir uchod, yn barod mae yna brinder ledled Cymru o bobl sy’n gallu cynnig y gefnogaeth angenrheidiol  i ysgolion i ymateb i’w anghenion o safbwynt delio ag ymddygiad heriol.  Mae’n bryder real gan UCAC bod lefel ac ansawdd y gefnogaeth yn mynd i leihau ymhellach wrth i ni weld lleihad sylweddol yn nifer staff cefnogi o fewn Awdurdodau Lleol yn sgil ffurfio’r unedau rhanbarthol sydd i bob ymddangosiad yn gweithredu rôl monitro a herio yn unig.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Description: UCAC_A4_Newsletter_Boilerplate.jpg